2015 Rhif 1357 (Cy. 131)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Byrddau Diogelu (Cyffredinol) (Cymru) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywr nodyn hwn yn rhan or Rheoliadau)

Maer Rheoliadau hyn yn ymwneud â Byrddau Diogelu Plant a sefydlir o dan adran 134(4) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (y Ddeddf) a Byrddau Diogelu Oedolion a sefydlir o dan adran 134(5) or Ddeddf. Yn y Rheoliadau hyn cyfeirir ar y cyd at Fyrddau Diogelu Plant a Byrddau Diogelu Oedolion fel Byrddau Diogelu.

Mae rheoliad 3 ac Atodlen 1 yn nodir ardaloedd y bydd Byrddau Diogelu ar eu cyfer.

Mae rheoliad 4 yn darparu bod y partneriaid arweiniol ar gyfer plant yn yr ardal wedi eu nodi yn Atodlen 2, colofn 2, a bod y partneriaid arweiniol ar gyfer oedolion yn yr ardal wedi eu nodi yn Atodlen 2, colofn 3. Mae adran 134(4) yn ei gwneud yn ofynnol ir partner arweiniol mewn perthynas â phlant sefydlu Bwrdd Diogelu Plant ac mae adran 134(5) yn ei gwneud yn ofynnol ir partner arweiniol mewn perthynas ag oedolion sefydlu Byrddau Diogelu Oedolion ar gyfer eu priod ardal Bwrdd Diogelu.

Mae rheoliad 5 yn nodir wybodaeth sydd iw chynnwys yn y cynllun blynyddol a gyhoeddir gan Fyrddau Diogelu o dan adran 136(1) or Ddeddf.

Mae rheoliad 6 ac Atodlen 3 yn nodir wybodaeth sydd iw chynnwys yn yr adroddiad blynyddol a gyhoeddir gan Fyrddau Diogelu o dan adran 136(2) or Ddeddf.

Mae rheoliad 7 yn darparu bod copïau or cynllun blynyddol ar adroddiad blynyddol i’w rhoi ar gael ir cyhoedd ac ir Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âr Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol or costau ar manteision syn debygol o ddeillio o gydymffurfio âr Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

2015 Rhif 1357 (Cy. 131)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Byrddau Diogelu (Cyffredinol) (Cymru) 2015

Gwnaed                                4 Mehefin 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru              9 Mehefin 2015

Yn dod i rym                             6 Ebrill 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 134(1) a (3), 136(3) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac ar ôl ymgynghori âr partneriaid Bwrdd Diogelu ar gyfer ardal yn unol ag adran 134(3) or Ddeddf honno([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enwr Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Byrddau Diogelu (Cyffredinol) (Cymru) 2015.

(2) Dawr Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016.

(3) Maer Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn

 ystyr adroddiad blynyddol (annual report) ywr adroddiad a gyhoeddir gan Fwrdd Diogelu o dan adran 136(2) or Ddeddf;

ystyr Bwrdd Cenedlaethol (National Board) ywr Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol a sefydlir gan adran 132(1) or Ddeddf;

ystyr Bwrdd Diogelu (Safeguarding Board) yw Bwrdd Diogelu Plant([2]) neu Fwrdd Diogelu Oedolion([3]);

 ystyr cynllun blynyddol (annual plan) ywr cynllun a gyhoeddir gan Fwrdd Diogelu o dan adran 136(1) or Ddeddf;

 ystyr y Ddeddf (the Act) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

mae partner Bwrdd Diogelu (Safeguarding Board partner) iw ddehongli yn unol ag adran 134(2) ac adran 134(6)(b);

 ystyr prif ardal llywodraeth leol (principal local government area) yw prif ardal llywodraeth leol fel yi nodir yn Rhannau I a II o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Ardaloedd Byrddau Diogelu

3. Yr ardaloedd yng Nghymru y bydd Byrddau Diogelu ar eu cyfer yw’r prif ardaloedd llywodraeth leol a nodir yng ngholofn 2 or tabl a nodir yn Atodlen 1, a ddynodir âr enw sydd gyferbyn yng ngholofn 1.

Partneriaid Arweiniol

4.(1)(1) Mae Gweinidogion Cymru yn pennur partner Bwrdd Diogelu a ddangosir yng ngholofn 2 or tabl a nodir yn Atodlen 2 fel y partner arweiniol mewn perthynas â phlant ar gyfer yr ardal a ddangosir gyferbyn yng ngholofn 1.

(2) Mae Gweinidogion Cymru yn pennur partner Bwrdd Diogelu a ddangosir yng ngholofn 3 or tabl a nodir yn Atodlen 2 fel y partner arweiniol mewn perthynas ag oedolion ar gyfer yr ardal a ddangosir gyferbyn yng ngholofn 1.

Cynlluniau blynyddol

5. Rhaid i gynllun blynyddol Bwrdd Diogelu gynnwys yr wybodaeth a ganlyn

(a)     rhestr o aelodaur Bwrdd Diogelu;

(b)     unrhyw ganlyniadau penodol y maer Bwrdd Diogelu yn bwriadu eu sicrhau;

(c)     crynodeb o unrhyw welliant y maer Bwrdd Diogelu yn bwriadu ei wneud iw alluogi i gyflawni ei amcanion yn well;

(d)     swm y gwariant y mae partneriaid y Bwrdd Diogelu yn cytuno bod y Bwrdd Diogelu yn debyg o fynd iddo er mwyn sicrhau ei amcanion;

(e)     disgrifiad o sut y maer Bwrdd Diogelu yn bwriadu cydweithredu â phersonau neu gyrff eraill syn ymgymryd â gweithgareddau syn ymwneud âi amcanion;

(f)      pryd a sut y bydd y Bwrdd Diogelu yn rhoi i blant ac oedolion y mae arfer ei swyddogaethau yn effeithio arnynt, neu y gall effeithio arnynt, gyfle i gymryd rhan yn ei waith.

Adroddiadau blynyddol

6.(1)(1) Rhaid i adroddiad blynyddol Bwrdd Diogelu gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 3.

(2) Cyn belled ag y bon ymarferol maer adroddiad i ddilyn ffurf cynllun blynyddol diweddaraf y Bwrdd Diogelu.

Cyhoeddi cynlluniau blynyddol ac adroddiadau blynyddol

7. Rhaid i Fwrdd Diogelu

(a)     trefnu bod ei gynllun blynyddol cyfredol ai adroddiad blynyddol cyfredol ar gael ir cyhoedd;

(b)     trefnu bod copi o unrhyw un neu rai oi gynlluniau blynyddol ai adroddiadau blynyddol yn y gorffennol ar gael ar gais;

(c)     anfon ei gynllun blynyddol cyfredol ai adroddiad blynyddol cyfredol at y Bwrdd Cenedlaethol.

 

 

Mark Drakeford

 

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

 

4 Mehefin 2015

 


 

ATODLEN 1    Rheoliad 3

Ardaloedd Byrddau Diogelu

Enwr ardal Bwrdd Diogelu

Rhychwant yr ardal Bwrdd Diogelu

Caerdydd ar Fro

prif ardaloedd llywodraeth leol

Cyngor Dinas a Sir Caerdydd a

Chyngor Bro Morgannwg;

Cwm Taf

 

prif ardaloedd llywodraeth leol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a

Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf;

Gwent

 

prif ardaloedd llywodraeth leol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent,

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili,

Cyngor Sir Fynwy,

Cyngor Dinas Casnewydd, a

Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen;

 

Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

prif ardaloedd llywodraeth leol

Cyngor Sir Caerfyrddin,

Cyngor Sir Ceredigion,

Cyngor Sir Penfro a

Chyngor Sir Powys;

 

Gogledd Cymru

 

   prif ardaloedd llywodraeth leol

    Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy,

    Cyngor Sir Ddinbych,

   Cyngor Sir y Fflint,

Cyngor Gwynedd,

Cyngor Sir Ynys Môn, a

   Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam;

 

Baer Gorllewin

 

prif ardaloedd llywodraeth leol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr,

Cyngor Dinas a Sir Abertawe a

Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

                    ATODLEN 2        Rheoliad 4

Partneriaid Arweiniol

Ardal Bwrdd Diogelu

Y partner arweiniol mewn perthynas â phlant ar gyfer yr ardal

Y partner arweiniol mewn perthynas ag oedolion ar gyfer yr ardal

Caerdydd ar Fro

 

Cyngor Bro Morgannwg

Cyngor Dinas a Sir Caerdydd

Cwm Taf

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Gwent

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Canolbarth a Gorllewin

Cymru

Cyngor Sir Penfro

Cyngor Sir Caerfyrddin

Gogledd Cymru

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Baer Gorllewin

Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

                    ATODLEN 3     Rheoliad 6(1)

Cynnwys Adroddiad Blynyddol

Rhaid i adroddiad blynyddol Bwrdd Diogelu gynnwys yr wybodaeth a ganlyn

(a)     rhestr o aelodaur Bwrdd Diogelu;

(b)     y camau y maer Bwrdd Diogelu wedi eu cymryd i sicrhau canlyniadau penodol;

(c)     i ba raddau y maer Bwrdd Diogelu wedi rhoi ar waith ei gynllun blynyddol diweddaraf, ynghyd â manylion ynglŷn â pha mor bell y cafodd unrhyw welliannau arfaethedig penodol eu rhoi ar waith;

(d)     sut y maer Bwrdd Diogelu wedi cydweithredu â phersonau neu gyrff eraill syn ymgymryd â gweithgareddau syn ymwneud ag amcanion y Bwrdd;

(e)     unrhyw geisiadau y maer Bwrdd Diogelu wedi eu gwneud i bersonau cymhwysol o dan adran 137(1) am wybodaeth benodedig, ac a gydymffurfiwyd âr ceisiadau;

(f)      cyflawniadaur Bwrdd Diogelu yn ystod y flwyddyn;

(g)     i ba raddau y cyfrannodd pob aelod or Bwrdd Diogelu at effeithiolrwydd y Bwrdd;

(h)     asesiad o sut y maer Bwrdd Diogelu wedi defnyddio ei adnoddau wrth arfer ei swyddogaethau neu sicrhau ei ganlyniadau;

(i)      unrhyw themâu gwaelodol o ran y ffordd y maer Bwrdd Diogelu wedi arfer ei swyddogaethau, fel yu dangosir drwy ddadansoddiad o achosion y mae wedi ymdrin â hwy, ac unrhyw newidiadau y mae wedi eu rhoi ar arfer o ganlyniad;

(j)      pryd a sut y defnyddiodd plant neu oedolion gyfle i gymryd rhan yng ngwaith y Bwrdd Diogelu a sut y cyfrannodd hynny at y modd y sicrhaodd y Bwrdd ei ganlyniadau;

(k)     nifer y gorchmynion amddiffyn a chynorthwyo oedolion y gwnaed cais amdanynt yn yr ardal Bwrdd Diogelu, faint ohonynt a wnaed, a pha mor effeithiol yr oeddynt;

(l)      unrhyw wybodaeth neu ddysg y mae’r Bwrdd Diogelu wedi ei lledaenu, neu hyfforddiant y mae wedi ei gymeradwyo neu wedi ei ddarparu;

(m)   sut y maer Bwrdd Diogelu wedi rhoi ar waith unrhyw ganllawiau neu gyngor a roddwyd gan Weinidogion Cymru neu gan y Bwrdd Cenedlaethol;

(n)     materion eraill syn berthnasol i waith y Bwrdd Diogelu.

 



([1])           2014 dccc 4.           

([2])           Sefydlir Byrddau Diogelu Plant gan bartner arweiniol y Bwrdd Diogelu mewn perthynas â phlant ar gyfer yr ardal yn unol ag adran 134(4) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (y Ddeddf).

([3])           Sefydlir Byrddau Diogelu Oedolion gan y partner arweiniol mewn perthynas ag oedolion yn unol ag adran 134(5) or Ddeddf.